Dadansoddiad cyfansoddiad gwastraff tecstilau a gasglwyd ar garreg y drws ac o ganolfannau HWRC.

Nod y dadansoddiad cyfansoddiad oedd deall mwy am ansawdd y deunydd o fewn ffrydiau canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (household waste recycling centres/HWRC) a chasgliadau ar garreg y drws, a’i botensial ar gyfer ei ailddefnyddio.

Mae'r adroddiad yn nodi'r cyfansoddiad manwl a’r lefelau halogiad a’r mathau o halogiad a geir mewn tecstilau wedi’u defnyddio a gesglir ar garreg y drws ac mewn canolfannau HWRC. Cymhwyswyd y nodau ac amcanion hyn hefyd wrth ddadansoddi’r tecstilau wedi’u defnyddio a gasglwyd drwy fanciau danfon.

Dewiswyd a recriwtiwyd yr awdurdodau lleol a gymerodd ran gan WRAP Cymru.

Dadansoddwyd cyfanswm o 10,860kg o decstilau wedi’u defnyddio yn ystod y prosiect. Nid oedd banciau danfon o fewn y cwmpas yn wreiddiol, ond cawsant eu cynnwys pan roedd yn bosibl er mwyn bod yn gynhwysfawr.

Gan mwyaf, dillad ac esgidiau gradd ailddefnyddio oedd y deunyddiau a gafwyd fwyaf ohonynt ar draws y tair ffrwd a gafodd eu cynnwys yn y dadansoddiad. Gan y samplau banciau danfon oedd y gyfran uchaf o ddillad ac esgidiau gradd ailddefnyddio, sef 75.3%, ac o gasgliadau ar garreg y drws daeth y gyfran isaf, sef 54.6%.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn am ragor o wybodaeth.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • Cyfansoddiad Tecstilau yng Nghymru.pdf

    PDF, 464.19 KB

    Lawrlwytho

Tagiau