Gall gweithwyr sy’n cynnal casgliadau gwydr i’w ailgylchu wrth ymyl y ffordd ddod i gysylltiad â lefelau uchel o sŵn.

Yn 2011, cyhoeddodd WRAP ganfyddiadau cyfres o arolygon sŵn a ddangosodd fod gan yr holl systemau casglu ailgylchu botensial i’w staff ddod i gysylltiad â lefelau sŵn a allai fynd y tu hwnt i’r gwerthoedd gweithredu a ddiffinnir yn Rheoliadau Rheoli Sŵn yn y Gwaith 2005, a bod y potensial gan rai cerbydau a chasgliadau’r potensial i dorri terfynau cyfreithiol.

Yn 2016, ehangodd WRAP yr astudiaeth flaenorol gan fod cerbydau casglu newydd ac amrywiaethau i systemau casglu’n cael eu defnyddio i gasglu gwydr i’w ailgylchu. Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno canlyniadau’r arolygon ac eto’n rhannu gwybodaeth am y lefelau sŵn posibl y gellir disgwyl dod i gysylltiad â hwy ar yr amrywiol gerbydau a systemau casglu a ddefnyddir. Bwriad yr adroddiad yw darparu sylfaen i WRAP roi darlun pellach o’r risgiau posibl a ddaw yn sgil dod i gysylltiad â sŵn mewn casgliadau ailgylchu gwydr.

Mae’r lefelau sŵn y daw staff i gysylltiad â hwy wedi cael eu canfod ar gyfer 19 o rowndiau casglu ailgylchu, ar amrywiaeth o fathau o gerbydau sy’n defnyddio’r systemau canlynol:

  1. didoli wrth ymyl y ffordd;
  2. dwy ffrwd rhannol gymysg; a
  3. thair ffrwd rhannol gymysg.

Roedd un o’r cerbydau didoli wrth ymyl y ffordd y cynhaliwyd prawf arnynt yn cynnwys nodweddion lleihau sŵn sydd â’r nod o leihau lefelau’r sŵn y daw eu gweithwyr i gysylltiad ag ef.

Er mwyn cynnal yr arolygon maes, roedd gofyn i ymgynghorydd acwstig deithio gyda’r criw a’u cysgodi yn ystod gweithgareddau arferol eu gwaith. Cymerwyd mesuriadau helaeth o’r lefelau sŵn yn agos i glustiau’r gweithwyr yn ystod gwahanol weithgareddau casglu gan ddefnyddio offerwaith mesur manwl gywir. Roedd y gweithgareddau’n amrywio yn ôl y math o system gasglu a dyluniad y cerbydau ond ar y cyfan, roedd yn cynnwys didoli o un bocs i’r cerbyd, gollwng deunyddiau drwodd i gafn neu stelin yn sydyn, bin hydrolig i godi ac arllwys i’r cerbyd, a system o ddefnyddio biniau gwas i lenwi’r cerbyd.

Ni fwriadwyd i’r ymchwiliad ymgymryd ag asesiadau sŵn yn y gwaith wedi’u teilwra a fuasai’n cyfrif am weithredoedd penodol awdurdod lleol neu fusnes casglu gwastraff preifat. Y nod oedd symleiddio a normaleiddio’r symiau mawr o ddata a gipiwyd ar draws yr arolygon i alluogi gwneud cymariaethau. O wneud hynny, gall y canlyniadau gynnig sylfaen ystyrlon i awdurdodau lleol a gweithredwyr ar gyfer mesur lefelau’r sŵn y gallai eu gweithwyr ddod i gysylltiad ag ef yn ddyddiol.

Canfu’r arolygon a gynhaliwyd ar draws yr 19 o wahanol gerbydau casglu a systemau casglu ei bod yn bosibl i weithwyr sy’n casglu gwydr i’w ailgylchu ddod i gysylltiad â sŵn gormodol ar lefelau a fuasai’n galw am gamau gweithredu yn ôl y Rheoliadau. Roedd yn gadarnhaol bod yr arolwg hefyd wedi dangos y gall rhoi mesurau lleihau sŵn ymarferol ar waith gynnig lefel sylweddol o amddiffyniad i weithwyr.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • Dod i gysylltiad â sŵn wrth gasglu ailgylchu gwydr – mesuriadau pellach

    PDF, 998.77 KB

    Lawrlwytho

Tagiau