Mae Llywodraeth Cymru a WRAP yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo gweithgaredd ailddefnyddio ac atgyweirio yng Nghymru ac maent wedi sefydlu gweithgor ymarferwyr i weithredu mewn rôl gynghorol. Drwy’r gwaith hwn, canfuwyd cyfleoedd digidol fel elfen bwysig o gynorthwyo twf y sector.

Cynhaliwyd yr adolygiad cefndir hwn er mwyn canfod a nodi’r ystod o lwyfannau, cyfeiriaduron, ac adnoddau digidol sy’n bodoli o fewn y sector ailddefnyddio ac atgyweirio yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ac er mwyn deall cwmpas, pwrpas ac amrywiaeth y gwasanaethau a gynhigir.

Cynhaliwyd hefyd ymarfer ymgynghori byr gyda rhanddeiliaid yn cynnwys aelodau dethol o’r gweithgor ymarferwyr er mwyn canfod bylchau ac atebion digidol a chyfleoedd i’r sector yn y dyfodol.

Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r adolygiad cefndir a’r ymarfer ymgynghori â rhanddeiliaid, canfuwyd cyfleoedd ar gyfer cymorth yn y dyfodol ar lefel dinasyddion a sefydliadol ill dau, a chynhaliwyd asesiad ar lefel uchel o’r opsiynau hyn.

Casgliadau ac Argymhellion

Mae’r adroddiad hwn wedi cyflwyno adolygiad cefndir byr o lwyfannau digidol, cyfeiriaduron ac adnoddau dethol sy’n bodoli yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Ymgynghorwyd â rhanddeiliaid hefyd i nodi bylchau a heriau digidol sectoraidd.

Defnyddiwyd yr adolygiad cefndir i lywio’r gwaith o ddatblygu rhestr o opsiynau digidol ar gyfer darparu yn y dyfodol ac anghenion cymorth y sector ailddefnyddio ac atgyweirio yng Nghymru. Cyflwynwyd deg opsiwn cyflawni yn Adran 4, ynghyd ag asesiad cychwynnol o effeithiolrwydd yn erbyn agweddau cymdeithasol, cost a gweithredol.

I gloi, nodwyd 10 opsiwn i’w hystyried ymhellach gan WRAP a Llywodraeth Cymru. Er mwyn bwrw ymlaen â hyn a datblygu cwmpas a chynnwys yr opsiynau ymhellach, gwnaed yr argymhellion canlynol ar gyfer ymchwil ychwanegol:

  • Astudiaeth i gymhellion dinasyddion - Amlygwyd gan yr ymgynghoriad â rhanddeiliaid yn yr astudiaeth hon, ac yn y gwaith ymgysylltu â’r farchnad a wnaed gan Circular Communities Scotland, fod y rhesymau pam nad yw pobl yn ailddefnyddio yn gymhleth, ac nad ydynt o reidrwydd yn gysylltiedig â gwybodaeth ond gallai gynnwys rhwystrau eraill i ymgysylltu. Gallai astudiaeth sy’n ymchwilio i gymhelliant dinasyddion i gymryd rhan mewn ailddefnyddio ac atgyweirio, gan gynnwys rhwystrau canfyddedig, fod yn fuddiol ar gyfer gweithgarwch ymgysylltu yn y dyfodol. Byddai hyn yn helpu i ddarparu dealltwriaeth o ba fathau o gynulleidfa sy'n defnyddio gwasanaethau ailddefnyddio ac atgyweirio a pha rai nad ydynt yn eu defnyddio, a'r ffordd orau o ymgysylltu â'r gwahanol segmentau hyn.
  • Masnacheiddio yn y sector - Mae’r enghreifftiau o adnoddau digidol a nodwyd yn yr adolygiad cefndir yn ymdrin ag atebion sy’n berthnasol ar lefel busnes a lefel dinasyddion, e.e., B2B neu B2C. Er enghraifft, meddalwedd yn benodol ar gyfer sefydliadau benthyca i'w defnyddio a llwyfannau gwerthu i ddinasyddion eu defnyddio. Mae’n werth ystyried beth ddylai canolbwynt digidol ei ddarparu. A yw'n ymwneud â chael defnyddwyr i gymryd mwy o ran mewn ailddefnyddio ac atgyweirio neu gefnogi sefydliadau i dyfu ac ehangu eu gwasanaethau i wneud yr un peth? Efallai bod y ddwy agwedd yn bwysig. Gellid hefyd archwilio ymhellach i ba raddau y mae mwy o fasnacheiddio'r sector yn ddymunol ac yn ymarferol gyda'r gweithgor rhanddeiliaid a'r sector ehangach.
  • Asesiad cost manwl - Cynhaliwyd adolygiad cefndir lefel uchel ac asesiad cost. Argymhellir asesiad cost manylach ar gyfer yr opsiynau a ffefrir, yn ogystal ag adolygiad sy'n cwmpasu sut y gellir darparu pob un a chan ba sefydliadau.
  • Asesiad opsiynau manwl - Cynhaliwyd asesiad ansoddol lefel uchel o opsiynau yn seiliedig ar bum maen prawf a nodwyd. Gellid cynnal proses asesu opsiynau fanylach ochr yn ochr â'r asesiad cost a argymhellir. Byddai hyn yn caniatáu i'r meini prawf asesu gael eu modelu a'u harchwilio'n fanylach ac i asesiad opsiynau pwysol gael ei gynnal i brofi aliniad â holl flaenoriaethau'r rhanddeiliaid. Byddai hyn hefyd yn cynnwys ystyried sut i fesur effeithiau buddiol cyfranogiad cynyddol mewn ailddefnyddio ac atgyweirio o safbwynt cost, amgylcheddol a chymdeithasol.
  • Defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol ar lefel gymunedol - ni chwiliwyd Facebook a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill yn helaeth ar gyfer y prosiect hwn oherwydd yr amser dan sylw. Byddai angen i adolygiad o'r fath nodi ac o bosibl ddod yn aelod o lawer o grwpiau lleol i ddarganfod mwy am sut mae'r llwyfannau digidol yn cael eu defnyddio mewn gwirionedd. Gallai astudiaeth hirach ymchwilio i ddefnydd a photensial y llwyfannau hyn yn fwy manwl, e.e., trwy ganolbwyntio ar brosiectau a mentrau dethol fel astudiaethau achos.

Download files

By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.

These files may not be suitable for users of assistive technology.

  • Ymchwil Atgyweirio ac Ailddefnyddio ar Sianeli Digidol

    PDF, 896.55 KB

    Download

Tags