Mae Cymru wedi llwyddo’n arw gydag ailgylchu ac wedi dod gwneud cynnydd sylweddol mewn ailgylchu plastigion o’r cartref, gan gyflawni cyfradd ailgylchu poteli plastig o 75%. Fodd bynnag, mae gwaith i’w wneud o hyd.

Ystadegau Allweddol

  • Cyfanswm o 400,000 tunnell y flwyddyn o wastraff plastig
  • Capasiti ailbrosesu o tua 55,000 tunnell y flwyddyn
  • 10% o blastigion gweithgynhyrchu mentrau bach a chanolig yn blastigion eilgylch
  • Caiff oddeutu 61% o’r gwastraff plastig a gesglir ei ailgylchu y tu allan i Gymru

Yr Her

Mae Cymru ar flaen y gad yn y Deyrnas Unedig gydag ailgylchu o’r cartref, a hi yw’r drydedd wlad orau yn y byd. Fodd bynnag, ynghyd â gweddill y byd, mae Cymru yn wynebu nifer o heriau sylweddol gyda gweithgynhyrchu, defnyddio a gwaredu plastigion. Mae mabwysiadu mentrau a modelau busnes newydd sy’n cadw plastigion mewn defnydd economaidd cyhyd â phosibl, a’i atal rhag dianc i’r amgylchedd, yn allweddol i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Rhaid i’r gadwyn werth plastigion gydweithio i sicrhau bod y nwyddau a’r deunydd pacio sy’n cyrraedd y farchnad yn ailgylchadwy, yn hawdd i’w hadfer a’u hailbrosesu, a dylent gynnwys rhan cyn uched â phosibl o ddeunydd eilgylch. Mae’r ddogfen hon, wedi’i chreu gan WRAP Cymru ac ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn darparu’r sylfeini fel y gallwn gwella cylcholdeb plastig yng Nghymru. 

Yn gatalydd ar gyfer gweithredu, ei ffocws yw nodi’r cyfleoedd a’r rhwystrau sy’n effeithio ar farchnadoedd ar gyfer plastigion eilgylch yng Nghymru, ac yn cynnig camau gweithredu a mentrau y gall diwydiant, llywodraeth, cyrff masnachu a mudiadau cefnogol ymgymryd â hwy.

Bydd WRAP Cymru yn canolbwyntio ar gefnogi sefydliadau ledled Cymru i gyflawni'r camau angenrheidiol, a hwyluso cydweithio ar draws y gadwyn werth i gyflymu'r symudiad tuag at economi plastig mwy cylchog.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • WRAP-tuag-at-fap-llwybr-2018.pdf

    PDF, 3.01 MB

    Lawrlwytho

Tagiau