Cymryd gwastraff a’i baratoi ar gyfer ei ddefnyddio eto a’i fwydo yn ôl i’r economi yw paratoi ar gyfer ailddefnyddio. Mae’r Map Llwybr hwn, ynghyd âg adroddiad technegol, yn amlinellu’r camau gweithredu a’r ymyriadau posibl sydd eu hangen i gefnogi mwy o baratoi ar gyfer ailddefnyddio yng Nghymru o fewn y ffrwd gwastraff trefol a gesglir gan yr awdurdod lleol.

Mapio’r llwybr tuag at newid sylfaenol

Mae’r Map Llwybr yn amcangyfrif yr effaith y byddai mwy o baratoi ar gyfer ailddefnyddio yn ei gael ar yr economi Gymreig ehangach. Yn ogystal ag ystyried yr effaith ar y gyfradd ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio genedlaethol, mae’r Map Llwybr yn cyflwyno allbynnau o weithgaredd modelu er mwyn amcangyfrif yr effaith o ran: y swyddi a rolau gwirfoddol a grëir; yr allyriadau nwyon tŷ gwydr (NTG) a osgowyd; a’r gwerth ychwanegol uniongyrchol ac anuniongyrchol i’r economi o ganlyniad i fwy o weithgareddau paratoi ar gyfer ailddefnyddio. Mae’r Map Llwybr yn cyflwyno golwg ar faint o weithredu ac ymyriad a fyddai ei angen i gyflawni gwahanol lefelau o baratoi ar gyfer ailddefnyddio, yn cynnwys newid sylfaenol trawsnewidiol yng Nghymru.

Adroddiad Technegol

Mae’r adroddiad technegol hwn yn cefnogi’r ddogfen Paratoi ar gyfer ailddefnyddio: mapio’r llwybr tuag at newid sylfaenol yng Nghymru (cyfeirir ato fel Y Map Llwybr). Mae hwn yn darparu gwybodaeth dechnegol ynghylch: 

  • manylion cwmpas yr ymchwil a sut cafodd y fethodoleg ymchwil ei llywio gan nodau ac amcanion yr ymchwil; 
  • manylion y llenyddiaeth a’r ffynonellau data a ddefnyddiwyd; 
  • sylwebaeth ynghylch yr amrywiol ymyriadau a gynhwyswyd ym mhob un o senarios y Map Llwybr, yn cynnwys astudiaethau achos enghreifftiol; 
  • manylion y dull modelu, ei allbynnau, dehongli ei allbynnau a’i gyfyngiadau; 
  • argymhellion ar gyfer ymchwil pellach.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • WRAP-map-llwybr-2018.pdf

    PDF, 1.76 MB

    Lawrlwytho
  • WRAP-map-llwybr-adroddiad-technegol-2018.pdf

    PDF, 2.34 MB

    Lawrlwytho

Tagiau