Cychwyn Arni

Mae’r fideo arddangos isod yn dangos ichi sut i gael yr wybodaeth y mae ei hangen arnoch o’r Map Deunyddiau.

Tunelleddau Plastig a Phapur

Mae data ar gael ar gyfer safleoedd gwastraff y mae gennym ddata hysbys ynghylch y symiau o wastraff maen nhw’n eu prosesu yn unig. Mae’r data hwn naill ai wedi’i roi yn uniongyrchol gan y cwmni, neu pan nad oedd ar gael ganddyn nhw, gan ddata cofnodion gwastraff a gyflwynwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r nodweddion defnyddiol yn cynnwys:

  • Gallwch hidlo yn ôl rhanbarth dan y blwch “dewis rhanbarth” ar y map, e.e. De Ddwyrain Cymru.
  • Gallwch hidlo yn ôl math y safle; mae’r tunelleddau o wastraff a brosesir gan bob safle yn cael eu dangos gan faint y symbolau siâp cylch.
  • Rydym yn ymwybodol bod safleoedd nad oes data gwastraff ar gael ar eu cyfer, a gallai fod yn ddefnyddiol ichi dynnu’r safleoedd hyn drwy newid y switsh togl tunelledd hysbys/anhysbys.

 

 

 

Tagiau