Arolwg blynyddol o aelwydydd y Deyrnas Unedig yw'r Traciwr Ailgylchu, sy’n casglu tystiolaeth ar agweddau, gwybodaeth, ac ymddygiad ailgylchu. Dyma’r mwyaf a’r hiraf o’i fath, gan iddo gael ei gynnal gan WRAP ers 2004.
Mae’r arolwg yn defnyddio dull gor-samplo yng Nghymru i ddarparu sampl cadarn, eang o ddinasyddion Cymru. Gwnaethpwyd gwaith maes ar-lein, o 20 – 30 Mawrth 2023. Cynhaliwyd cyfanswm o 5,343 o gyfweliadau ledled y Deyrnas Unedig gydag oedolion sydd â chyfrifoldeb dros ddelio â’r sbwriel ac ailgylchu gartref. Roedd hyn yn cynnwys sampl o 1,004 o oedolion yng Nghymru. Mae’r sampl yn cyd-fynd â phroffil hysbys Cymru, gyda chwotâu wedi’u gosod ar gyfer oedran, rhywedd a rhanbarth.
Mae’r arolwg yn darparu mewnwelediad i agweddau dinasyddion Cymru tuag at ailgylchu, yn ogystal â dealltwriaeth ehangach o’u hymddygiadau yn gysylltiedig ag ailgylchu. Mae’n darparu mewnwelediadau i’r sector ar ddefnyddwyr bwriadedig y diwygiadau ailgylchu, gan gefnogi llywodraethau, Awdurdodau Lleol, a chasglwyr gwastraff gyda dealltwriaeth o’r rhwystrau a’r cymelliadau y mae dinasyddion yn eu hwynebu wrth gyfranogi yn y system.
Mae canlyniadau’r traciwr yn dangos nifer o ganfyddiadau allweddol ynghylch ymddygiad ailgylchu:
-
Mae ailgylchu yn ymddygiad sefydledig yng Nghymru, ac mae mwy na naw o bob deg (95%) o ddinasyddion Cymru’n dweud eu bod yn ailgylchu’n rheolaidd.
-
Mae hanner (50%) yn colli’r cyfle i ailgylchu un neu fwy o ddeunyddiau (80% o gynnwys poteli persawr/persawr eillio gwydr).
-
Mae gwelliannau mewn halogiad yn dangos bod gwelliannau cynyddrannol wedi bod mewn ymddygiad ailgylchu ledled Cymru, a gwelir hyn ar gyfer y Deyrnas Unedig hefyd.
-
Ar hyn o bryd, mae 5.3 eitem ar gyfartaledd yn cael eu gwaredu’n anghywir fesul pob dinesydd yng Nghymru. Mae hyn yn welliant sylweddol o’i gymharu â Mawrth 2021 (5.7).
-
Mae tri chwarter (75%) dinasyddion Cymru wedi gweld y logo ‘Cylchyn’ Recycle Now yn y flwyddyn ddiwethaf, ac mae 61% wedi gweld Labeli Ailgylchu ar y Pecyn (On-Pack Recycling Labelling/OPRL). Mae un traean (30%) wedi gweld y logo ‘Cymru yn Ailgylchu’, a 4% wedi gweld y logo ‘Bydd Wych’.
-
Mae ailgylchu gwastraff bwyd yn parhau i fod â norm gwannach o’i gymharu ag ailgylchu sych.
-
Yng Nghymru, mae gan y mwyafrif helaeth (78%) fynediad at wasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd, ac maent yn ei ddefnyddio2. Ar ben hynny, mae un arall o bob pump (19%) yn dweud fod ganddynt wasanaeth ond nad ydynt yn ei ddefnyddio (yn cynnwys rhaniad cymharol hafal rhwng y rhai a roddodd gynnig arni a rhoi’r gorau i’w ddefnyddio (defnyddwyr enciliol) a’r rhai nad ydynt erioed wedi’i ddefnyddio). Dywedodd lleiafrif (4%) nad oes ganddynt wasanaeth.
-
Roedd agweddau at ailgylchu gwastraff bwyd yn gadarnhaol gan mwyaf. Ymysg datganiadau eraill, cytunodd 66% o ddinasyddion Cymru ei fod yn gyfrifoldeb arnyn nhw fel dinasyddion i ailgylchu eu gwastraff bwyd.
-
Y tri phrif rwystr a adroddwyd gan ddinasyddion Cymru sydd â mynediad at gasgliad ailgylchu gwastraff bwyd oedd arogleuon (14%), gollyngiadau ac arllwysiadau (12%), ynghyd â chynrhon/pryfed (11%).
-
Yn olaf, dywedodd dau o bob pump (41%) o ddinasyddion Cymru eu bod wedi clywed rhywbeth am gyflwyniad Cynllun Dychwelyd Ernes (Deposit Return Scheme/DRS) yn y Deyrnas Unedig, er bod peth ansicrwydd ynghylch beth fydd y cynllun yn ei gynnwys.
Gallwch lawrlwytho’r adroddiad llawn a’r adroddiad cryno yn Gymraeg a Saesneg.
Lawrlwytho ffeiliau
-
Arolwg Tracio Ailgylchu Yng Nghymru Gwanwyn 2023.
PDF, 2.86 MB
-
Crynodeb Aolwg Tracio Ailgylchu Yng Nghymru Gwanwyn 2023.
PDF, 852.98 KB
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.