Yn 2020, gofynnodd Llywodraeth Cymru i WRAP Cymru, drwy’r Rhaglen Newid Gydweithredol, ymgymryd ag asesiad ar lefel uchel o effeithiau posibl Cynllun Dychwelyd Ernes (Deposit Return Scheme/DRS) ar wasanaethau casglu gwastraff awdurdodau lleol Cymru.
Y nod oedd darparu dadansoddiad o’r perfformiad ailgylchu statudol ynghyd â’r effeithiau ariannol ar gynllun dychwelyd ernes ar awdurdodau lleol Cymru. Asesiad wrth y ddesg oedd hwn, yn defnyddio gwybodaeth sy’n bodoli eisoes.
Yn y lle cyntaf, cynhaliwyd y dadansoddiad ar lefel Cymru gyfan ac ar gyfer y ddwy brif system casglu wrth ymyl y ffordd (Glasbrint a Chymysg). Yn dilyn cyflwyno’r canlyniadau i grŵp o randdeiliaid awdurdodau lleol, mireiniwyd y modelu i gynnwys rhai elfennau o sensitifedd cyfansoddiad gweddilliol.
Darparwyd y canlyniadau i Lywodraeth Cymru a’r rhanddeiliaid drwy gyfres o gyflwyniadau. Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r fethodoleg a’r canlyniadau hynny.
Lawrlwytho ffeiliau
-
Cynllun Dychwelyd Ernes Yng Nghymru.pdf
PDF, 497 KB
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.