Mae’r adroddiad hwn yn darparu amcangyfrifon o’r swm a’r mathau o wastraff bwyd a diod a gynhyrchwyd gan gartrefi Cymru yn 2021/22. Edrycha’r adroddiad hefyd ar y rhesymau dros daflu, y gost ariannol, a’r allyriadau nwyon tŷ gwydr (NTG) sy’n gysylltiedig â bwyd wedi’i wastraffu.

Pam mae’r canfyddiadau hyn yn bwysig?

  • Bydd gwastraff bwyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni’r targedau sydd wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru i fod yn ddiwastraff a chyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2050.
  • Mwy nag Ailgylchu yw’r glasbrint ar gyfer yr economi gylchol yng Nghymru sy’n cynnwys ymrwymiad strategol i darged nad yw’n rhwymol i leihau gwastraff bwyd osgoadwy i 50% o lefelau 2007 erbyn 2025, a lleihad o 60% erbyn 2030.

Faint o wastraff bwyd a gynhyrchir gan gartrefi?

  • Cynhyrchwyd cyfanswm (rhannau bwytadwy ac anfwytadwy) o 309,000 o dunelli o wastraff bwyd o gartrefi yng Nghymru yn 2021/22. Ar gyfartaledd, mae hyn yn 100kg y pen ar gyfer y flwyddyn honno, neu’n 230kg fesul aelwyd.
  • O’r cyfanswm gwastraff bwyd o’r cartref, dosbarthwyd 75% ohono fel rhannau bwytadwy, sef bwyd a fwriadwyd i bobl ei fwyta.

Beth yw effeithiau amgylcheddol gwastraff bwyd cartrefi?

Roedd yr allyriadau nwyon tŷ gwydr (NTG) a oedd yn gysylltiedig â bwyd a diod a wastraffwyd (h.y. rhannau bwytadwy) yng Nghymru’n cyfrif am oddeutu 950,000 o dunelli cyfatebol i CO2 yn 2021/22.

Faint mae taflu’r bwyd hwn yn ei gostio i ni?

Cyfanswm y gost ariannol i aelwydydd Cymru o fwyd a diod a wastraffwyd yn 2021/22 oedd £786,000,000, neu £250 y pen neu £580 fesul aelwyd gyfartalog.

Beth yw’r prif resymau dros wastraffu bwyd?

Cafodd 19% o'r holl fwyd ei wastraffu oherwydd ei fod yn arogli neu'n edrych yn hen a 14% oherwydd ei fod wedi mynd heibio'r dyddiad ar y label. Gellir dosbarthu’r ddau reswm fel bwyd a gafodd ei daflu oherwydd ‘na chafodd ei ddefnyddio mewn pryd’ ac felly gyda’i gilydd mae’n cyfrif am 33% o’r holl fwyd sy’n cael ei wastraffu. Gellir defnyddio’r rhesymau hyn i roi amcan o ba ymddygiadau allai leihau gwastraff bwyd.

Lawrlwytho ffeiliau

O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.

Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.

  • Crynodeb Gweithredol Gwastraff Bwyd a Diod Cartrefi yng Nghymru 2021-22

    PDF, 471.49 KB

    Lawrlwytho

Tagiau

Mentrau

Bwyd a diod