Yn 2019, comisiynwyd Rhaglen Newid Gydweithredol WRAP Cymru (Collaborative Change Programme CCP) gan Lywodraeth Cymru (LlC) i baratoi adroddiad i roi ymateb manwl i argymhelliad A2 yn adroddiad1 "Rheoli Gwastraff yng Nghymru: Ailgylchu Trefol” a baratowyd ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), dyddiedig 15fed Tachwedd 2018.
Argymhelliad A2 o’r adroddiad yw ”wrth ddadansoddi ymhellach er mwyn cael dealltwriaeth well o’r rhesymau wrth wraidd y gwahaniaethau yn y costau a adroddwyd gan gynghorau, a’r effaith ar gostau lle mabwysiadwyd y Glasbrint Casgliadau gan y cynghorau, argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru:
-
archwilio sut y gallai’r gost o gasglu deunyddiau ailgylchadwy sych effeithio ar gyfanswm y gost o ddarparu gwasanaethau rheoli gwastraff ar garreg y drws i aelwydydd; a
-
chymharu’r costau gwirioneddol â’r costau a fodelwyd yn flaenorol fel rhan o’r adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o’r Glasbrint Casgliadau, yn achos cynghorau sydd bellach yn gweithredu’r Glasbrint Casgliadau.”
Ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhelliad oedd:
“Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gydag Awdurdodau Lleol, CLlLC a thîm Rhaglen Newid Gydweithredol (CCP) WRAP i edrych ar gostau casgliadau ailgylchu sych, casgliadau gwastraff bwyd a gwasanaethau rheoli gwastraff ar garreg y drws i aelwydydd.
Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda thîm CCP WRAP i gymharu modelu costau cyn newidiadau i wasanaethau a gwir gostau’r gwasanaethau ar ôl i newidiadau gael eu gwneud. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad o gostau Awdurdodau Lleol sydd bellach yn gweithredu gwasanaethau sy’n alinio â’r Glasbrint Casgliadau. Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio ar hyn dros y ddwy flynedd nesaf, gyda’r bwriad o gyhoeddi asesiad yng ngwanwyn 2021.
Bydd yr asesiad yn cynnwys Awdurdodau Lleol ychwanegol sydd wedi newid i’r Glasbrint Casgliadau a bydd hefyd yn ceisio cyfrif am y gwahaniaeth rhwng codiadau tymor byr mewn costau/perfformiad o’u cymharu â’r rhai a geir mewn gwasanaethau mwy aeddfed.”
Mae'r adroddiad cryno hwn yn amlinellu'r ymateb a'r canfyddiadau.
1 Rheoli Gwastraff yng Nghymru: Ailgylchu Trefol, Tachwedd 2018 ar gael yma: https://www.audit.wales/cy/publication/rheoli-gwastraff-yng-nghymru-ailgylchu-trefol Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn annibynnol o’r Cynulliad Cenedlaethol ac o lywodraeth. Mae’n archwilio ac yn ardystio cyfrifon Llywodraeth Cymru a’r cyrff cyhoeddus sy’n gysylltiedig â hi ac a noddir ganddi. Mae ganddo’r pŵer i gyflwyno adroddiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol ar ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd a wna’r sefydliadau hynny o’u hadnoddau wrth gyflawni eu swyddogaethau, a sut y gallent wella’r defnydd hwnnw. Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ymgymryd â’i waith gan ddefnyddio staff ac adnoddau eraill a ddarperir gan Swyddfa Archwilio Cymru
Lawrlwytho ffeiliau
-
Ymateb i Adroddiad 2018 Swyddfa Archwilio Cymru – Adroddiad Cryno
PDF, 534.31 KB
O lawrlwytho’r adnoddau, rydych yn cytuno i’w defnyddio’n unol â’n telerau ac amodau.
Mae’n bosibl na fydd y ffeiliau hyn yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol.