Mae’r adroddiad hwn yn tynnu ynghyd sawl ffrwd o waith (adroddiadau, arolygon a chyflwyniadau) a gwblhawyd gan bartneriaid fel rhan o beilot Cynllun Dychwelyd Ernes Digidol (Digital Deposit Return Scheme/DDRS) yng Nghonwy, a gynhaliwyd yn ystod Mehefin a Gorffennaf 2021.

Mae Llywodraeth Cymru’n anelu at gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) erbyn 2024.

System sy’n annog defnyddwyr i ailgylchu eitem drwy godi ernes ariannol pan brynir yr eitem yw DRS. Caiff yr ernes hon ei had-dalu pan fo’r eitem yn cael ei dychwelyd i’w hailgylchu. Cynllun ar gyfer cynwysyddion diodydd yw’r un sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd, a’i nod yw lleihau taflu sbwriel, hybu cyfraddau ailgylchu a gwella ansawdd y deunydd a gesglir i’w ailgylchu.

Download files

By downloading resources you are agreeing to use them according to our terms and conditions.

These files may not be suitable for users of assistive technology.

  • Adolygiad Peilota Cynllun Dychwelyd Ernes Digidol.pdf

    PDF, 905.17 KB

    Download

Tags